GrŵpTrawsbleidiol ar Fenywod yn yr Economi: Crynodeb Gweithredol.
2013-2016
Cynnwys
Gwahanu ar sail rhywedd a chyflog cyfartal
Camu Ymlaen: Menywod ym meysydd Rheoli ac Arwain
Yn dilyn lansiad llwyddiannus Chwarae Teg o’r adroddiad ymchwil, Lle’r Fenyw (astudiaeth o rolau menywod yn economi Cymru) yn gynharach eleni, teimlwyd y byddai Grŵp Trawsbleidiol yn gallu archwilio’r materion a nodwyd yn fanylach ac ystyried sut i symud yr agenda hon ymlaen.
Mae canfyddiadau allweddol y gwaith ymchwil a fydd yn cael eu hystyried gan y grŵp yn cynnwys:
· Stereoteipiau cyson sy’n dylanwadu ar yrfaoedd ar gyfer dynion a menywod
· Patrymau gwaith ar sail rhywedd sy’n dylanwadu ar gyfleoedd
· Y ffaith fod y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn parhau
· Y ffaith fod mwy o fenywod mewn swyddi rhan-amser, cyflog isel
· Cyfrifoldebau gofal fel rhwystr i swyddi llawn amser
· Dylanwad rolau rhywedd ar yrfaoedd menywod
Trefnwyd cyfarfodydd yn unol â’r fframwaith canlynol a gwahoddwyd siaradwyr i roi cyflwyniad ar faterion yn ymwneud â’r themâu perthnasol:
· Gwahanu ar sail Rhywedd a Chyflog Cyfartal
· Symud Ymlaen: Menywod ym meysydd Rheoli ac Arwain
· Y Wasgfa ar Sgiliau
· Y Gweithle Modern
· Pwy sy’n Poeni?
· Menywod yn Mentro
Mae Grŵp Trawsbleidiol Menywod yn yr Economi wedi cyfarfod tair gwaith y flwyddyn rhwng mis Hydref 2013 a mis Chwefror 2016. Mae’r grŵp wedi derbyn cyflwyniadau gan arbenigwyr ar bynciau amrywiol yn y meysydd blaenoriaeth a nodir yn yr adroddiad. Yn ogystal, ymunodd nifer o fenywod â’r grŵp i rannu eu hanesion eu hunain, gan arwain at argymhellion sy’n seiliedig ar brofiadau bywyd.
Mae’r argymhellion a nodir yn y papur hwn yn gamau cadarnhaol a fydd, ym marn y Grŵp Trawsbleidiol a’r cyfranogwyr, yn helpu i greu Cymru lle mae menywod yn cyflawni a ffynnu.
Yng Nghymru, mae’r rhan fwyaf o fenywod yn parhau i weithio mewn nifer fach o swyddi a sectorau diwydiant. Mae hwn yn un o’r prif ffactorau sy’n cyfrannu at y bwlch cyflog rhwng y rhywiau, sef 16.5% ar gyfer yr holl weithwyr cyflogedig yng Nghymru (ar sail cyflog canolrifol fesul awr). Gall rhaglenni ymyrraeth i ddileu stereoteipiau ac ehangu gorwelion gael effaith ar leihau gwahanu ar sail rhywedd yn y gweithle.
Mae’n amlwg bod gwahanu ar sail rhywedd yn parhau i fodoli yng ngweithle Cymru a bod angen gwneud llawer mwy o hyd i sicrhau cyflog cyfartal rhwng dynion a menywod.
Er mwyn ceisio sicrhau rhagor o gydraddoldeb rhwng y rhywiau yn y gweithle, mae’r grŵp yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru roi’r camau gweithredu canlynol ar waith:
· Datblygu cyfleuster ar-lein canolog sy’n cadw’r holl wybodaeth berthnasol i hyrwyddo cydraddoldeb rhwng y rhywiau. Byddai’n cynnwys gwaith ymchwil perthnasol, cyngor ar yrfaoedd i ferched a chymorth ar gyfer cyflogwyr.
· Sicrhau bod Sefydliadau Addysg Bellach yn croesawu ac yn cefnogi bechgyn a merched sy’n dilyn cyrsiau lle maent yn y lleiafrif. Byddai hyn yn cynnwys sicrhau eu bod yn darparu cyfleusterau digonol ar gyfer y ddau ryw a bod tiwtoriaid a deunyddiau yn berthnasol ac yn groesawgar i’r naill a’r llall fel ei gilydd.
· Datblygu cynllun esiamplau i hybu gyrfaoedd sy’n cael eu dilyn gan ddynion yn bennaf i fenywod.
· Annog rhagor o diwtoriaid a mentoriaid benywaidd mewn sectorau sy’n cynnwys dynion yn bennaf i gynorthwyo prentisiaid (gan gynnwys cymorth cyn prentisiaethau).
· Darparu data ar brentisiaethau wedi’i ddadgyfuno ar sail rhywedd, sector a swydd. Dylid sicrhau bod data ar gynnydd a chyflawniad ar gael hefyd.
· Gwella telerau ac amodau ar gyfer menywod drwy ddulliau caffael y sector cyhoeddus.
· Sicrhau bod hyfforddiant ar ymwybyddiaeth o rywedd yn cael ei ddarparu ar gyfer athrawon a chynghorwyr gyrfaoedd o bob math fel rhan o’u fframweithiau cymhwyster cychwynnol a’u datblygiad proffesiynol parhaus.
· Darparu hyfforddiant sgiliau ar gyfer menywod sydd mewn swyddi rhan-amser fel bod swyddi cyflog uwch ar gael iddynt.
Ychydig iawn o fenywod sy’n gwneud gwaith ar lefel arwain ym mhob sector yn y DU a Chymru. Mae rhaglenni i annog mwy o fenywod i gael swyddi arwain yn datblygu, ond mae problemau o hyd o safbwynt rhagfarn ddiarwybod, canfyddiadau o waith arwain a thryloywder adrodd ar amrywiaeth.
Er gwaethaf peth cynnydd, mae cyfran y menywod sydd mewn prif swyddi arwain yn siomedig o isel o hyd, ac mae angen gweithredu i ddileu’r rhwystrau sy’n atal menywod talentog rhag camu ymlaen yn eu gyrfa.
Er mwyn mynd i’r afael â’r anghydbwysedd rhwng y rhywiau mewn swyddi arwain yng Nghymru, rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru roi’r camau gweithredu canlynol ar waith:
· Ei gwneud yn ofynnol i fusnesau cyhoeddus a phreifat gyhoeddi manylion rhywedd eu gweithlu yn ôl swydd a lefel er mwyn darparu meincnod i fonitro cynnydd.
· Sicrhau bod pawb sy’n derbyn cyllid cyhoeddus yn deall y problemau yn ymwneud â rhywedd yn eu sector/sefydliad a bod ganddynt gynllun gweithredu i fynd i’r afael â nhw.
· Darparu hyfforddiant ar ragfarn ddiarwybod i’r rhai sy’n recriwtio a sicrhau eu bod yn sefyll prawf rhagfarn ddiarwybod cyn yr ymarferion recriwtio er mwyn datgelu eu rhagfarn a’u galluogi i fynd i’r afael â hi.
· Annog cwmnïau preifat i bennu nodau ar gyfer amrywiaeth ac enwebu hyrwyddwyr mewnol i’w helpu i gyflawni’r nodau hyn.
· Ymchwilio i’r 5 sector yng Nghymru sydd â’r rhwystrau mwyaf i fenywod rhag cyrraedd swyddi arwain, a hwyluso sgwrs rhyngddynt am sut i oresgyn y rhwystrau ac arwain yn y maes hwn.
· Sicrhau bod hyfforddiant ar gael i fusnesau i’w helpu i gynhyrchu deunyddiau niwtral o ran y rhywiau i fynd i’r afael â’r canfyddiad bod swyddi rheoli ar gyfer dynion yn unig.
· Gweithredu i sicrhau bod amrywiaeth yn aros ar yr agenda ac nad yw camau gweithredu i helpu menywod i gael swyddi arwain yn arwain at sefyllfa ‘debyg at ei debyg’ h.y. bod menywod dosbarth canol gwyn yn disodli dynion dosbarth canol gwyn.
Mae lefelau cymwysterau menywod yng Nghymru yn cynyddu, ac mae gan fwy o fenywod gymhwyster lefel gradd na dynion. Mae 55% o israddedigion yn fenywod, ac maent yn fwy tebygol o dderbyn hyfforddiant mewn swydd na dynion. Er gwaetha’r llwyddiant hwn, mae menywod yn parhau i wneud swyddi sgiliau isel, cyflog isel heb fawr o gyfle i gamu ymlaen yn eu gyrfa. Mae tanddefnyddio sgiliau menywod yn y modd hwn yn cael effaith ar yr economi, ac mae Llywodraethau Cymru, y DU ac Ewrop ar bob lefel yn awyddus i ddatgloi’r potensial hwn a rhoi hwb i’r economi.
Mae tanddefnyddio sgiliau menywod yn anfanteisiol i economi Cymru ac yn cadw teuluoedd ar y ffin tlodi. Mae manteision amlwg i gynorthwyo menywod i wireddu eu potensial, nid yn unig ar gyfer unigolion, ond ar gyfer teuluoedd a chymdeithas yn ei chyfanrwydd hefyd.
Er mwyn manteisio ar holl sgiliau gweithlu Cymru, mae’r grŵp trawsbleidiol ar gyfer menywod yn yr economi yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru roi’r camau gweithredu canlynol ar waith:
· Sefydlu gweithgor o gyflogwyr i archwilio sut i gynorthwyo menywod i ddychwelyd i’r gweithle ar ôl seibiant gyrfa.
· Defnyddio archwiliadau caffael a rhywedd i ddylanwadu ar gyflogwyr a chreu galw am weithwyr benywaidd medrus.
· Gofyn i bob busnes â mwy na 10 gweithiwr adrodd ar y cydbwysedd rhwng y rhywiau o’r brig i’r gwaelod.
· Gwella ansawdd gwaith rhan-amser fel rhan o strategaeth gyffredinol i wella gwaith i bawb.
Er bod gweithio hyblyg wedi cynyddu yng Nghymru, mae menywod yn parhau i wneud swyddi cyflog isel, rhan-amser yn bennaf, sy’n eu galluogi i gael cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith. Wrth i dechnoleg ddatblygu, mae dulliau gweithio newydd wedi dod i’r amlwg sy’n galluogi cyflogwyr i gynnig trefniadau gweithio newydd fel bod menywod yn gallu cyfrannu at yr economi yn ogystal â chyflawni eu cyfrifoldebau y tu allan i’r gwaith. Mae’r dulliau newydd hyn yn hwyluso datblygiad gweithlu hyblyg sydd â lefelau mwy o ymreolaeth. Mae’r papur hwn yn gwneud argymhellion ar gyfer newid sy’n galluogi pawb i gyfrannu mewn ffordd sy’n diwallu anghenion y busnes a’r teulu.
Mae canolbwyntio mwy ar gynhyrchiant a chyflawniadau yn hytrach nag oriau yn ffordd dda o herio’r rhagdybiaeth fod gwaith rhan-amser yn llai pwysig, ac o gynyddu nifer y swyddi o ansawdd ag oriau llai sydd ar gael.
Byddai newid ein dulliau gweithio yn galluogi pawb i gyfrannu hyd eithaf eu gallu. Mae’n gyfle ardderchog i Gymru fanteisio ar sgiliau pawb a chynorthwyo’r gweithlu cyfan i gyfrannu at dwf ein heconomi.
Er mwyn gwireddu’r weledigaeth hon, mae’r Grŵp Trawsbleidiol ar gyfer Menywod yn yr Economi yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru roi’r camau gweithredu canlynol ar waith:
· Hyrwyddo newid yn niwylliant y gweithle drwy amlygu enghreifftiau o arferion da i hyrwyddo hyblygrwydd a chanolbwyntio ar ganlyniadau.
· Grymuso rheolwyr ac arweinwyr i fesur perfformiad ar sail canlyniadau ac nid amser.
· Gwella ansawdd gwaith rhan-amser ar gyfer dynion a menywod.
· Codi ymwybyddiaeth cyflogwyr o fanteision gweithio hyblyg – llai o orbenion, cadw staff ac ati.
Menywod yn bennaf sy’n ymgymryd â chyfrifoldebau gofal
yng Nghymru o hyd, gan ddarparu llawer o ofal di-dâl. Mae hyn
yn golygu bod llawer ohonynt yn gorfod sicrhau cydbwysedd rhwng
gweithio a gofalu, gan eu cyfyngu yn aml i swyddi rhan-amser cyflog
isel sy’n rhoi’r hyblygrwydd gofynnol iddynt a’u
galluogi i hawlio lwfans gofalwyr. Mae gofal yn cael effaith
negyddol ar iechyd, addysg a chanlyniadau economaidd sy’n
creu rhagor o rwystrau i fenywod.
Mae’n amlwg nad yw cyfraniad gofalwyr yn cael ei werthfawrogi digon. Menywod sy’n cyflawni dyletswyddau gofal yn aml, ond mae ceisio rheoli cyfrifoldebau gofal yn fwy o broblem i ddynion erbyn hyn hefyd, wrth i’r boblogaeth heneiddio a hawliau absenoldeb rhiant ar gyfer tadau gynyddu.
Agweddau cyflogwyr yw’r allwedd i lwyddiant gan fod angen hyblygrwydd ar ofalwyr i reoli eu cyfrifoldebau, ac mae angen iddynt deimlo eu bod yn cael cefnogaeth i wneud dewisiadau. Nodwyd bod stigma yn gysylltiedig â gofalu a bod staff yn teimlo’n aml na allent drafod â’u rheolwyr llinell os oeddent eisiau amser i ffwrdd ar gyfer dyletswyddau gofal. Ar y llaw arall, mae angen sicrhau bod disgwyliadau yn ymarferol ar gyfer busnesau bach, a rhoi arweiniad i sicrhau eu bod yn gallu cydymffurfio â deddfwriaeth.
Er mwyn cynorthwyo gofalwyr yng Nghymru, mae’r Grŵp Trawsbleidiol ar gyfer Menywod yn yr Economi yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru roi’r camau gweithredu canlynol ar waith:
· Lobïo Llywodraeth y DU i ddarparu lwfans gofalwyr i bob gofalwr cofrestredig, waeth beth yw ei incwm, er mwyn cynorthwyo gofalwyr i barhau i weithio.
· Ystyried yn ofalus effaith diddymu'r mesur Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru), gan ei bod yn bosibl y bydd ei ymgorffori mewn deddfwriaeth arall yn cael effaith negyddol.
· Darparu rhagor o gymorth i ofalwyr ifanc i sicrhau eu bod yn cael cymorth i barhau â’u haddysg.
· Hyrwyddo esiamplau gwrywaidd cadarnhaol er mwyn annog newid diwylliant a grymuso dynion i ymgymryd â rôl weithredol.
· Datblygu ymgyrch yn y cyfryngau i hyrwyddo pwysigrwydd gofal a dangos sut mae cyflogwyr yn gallu cynorthwyo unigolion i reoli eu cyfrifoldebau.
· Sicrhau bod pob sefydliad yn y sector cyhoeddus yn darparu pecyn cyfartal ar gyfer mamau a thadau sy’n cymryd Absenoldeb Rhiant a Rennir.
Yng Nghymru heddiw, mae menywod yn parhau i fod yn llai tebygol na dynion o redeg eu busnes eu hunain. Mae’r “bwlch rhwng dechrau busnesau” yn golygu bod menywod yn dechrau llai na hanner y busnesau newydd, er gwaetha’r ffaith fod nifer y rhai sy’n gofyn i Busnes Cymru am gyngor ar ddechrau busnes yn gymharol gyfartal.
Mae’r dystiolaeth yn awgrymu bod yna gyfle clir i gynyddu nifer y menywod sy’n dechrau busnesau yng Nghymru ac y byddai llwyddiant yn rhoi hwb i’r economi drwy gynyddu gwerth ychwanegol gros. Hefyd, mae’n amlwg bod cymhellion menywod ar gyfer dechrau busnes yn gallu bod yn wahanol a bod angen cymorth arnynt sy’n addas i’w hanghenion.
Mae llawer iawn o fenywod busnes talentog yng Nghymru, ac mae angen gwneud mwy i hyrwyddo’r esiamplau da hyn ac ysbrydoli menywod eraill i ddilyn eu hesiampl. Yn ogystal, dylid darparu addysg fenter mewn ffordd sy’n cydnabod gwahaniaethau rhwng y rhywiau ac yn grymuso menywod i lwyddo ym myd busnes heb aberthu eu hamcanion na’u huchelgeisiau eu hunain.
Mae’r Grŵp Trawsbleidiol ar gyfer Menywod yn yr Economi yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru roi’r camau gweithredu canlynol ar waith:
· Sicrhau bod ymwybyddiaeth o rywedd yn rhan sylfaenol o gymorth busnes ac addysg fenter, a galluogi rhagor o fenywod i lwyddo ym myd busnes.
· Sicrhau bod Busnes Cymru a darparwyr cymorth yn cyfathrebu mewn ffordd sy’n gynhwysol ar gyfer dynion a menywod.
· Darparu ymyriadau penodol i helpu menywod i ddechrau a datblygu eu busnesau a’u cynorthwyo i symud ymlaen a manteisio ar gymorth a rhwydweithiau busnes prif ffrwd, cyffredinol.
· Casglu ac adolygu data wedi’i ddadgyfuno ar rywedd i sicrhau bod bylchau’n cael eu nodi a’u cau.
· Datblygu rhwydwaith o esiamplau benywaidd a darparu cyfleoedd i fenywod gael cymorth gan fentoriaid a rhwydweithiau sy’n gallu cefnogi eu hanghenion.
Mae adroddiadau llawn ar bob un o’r pynciau hyn ar gael ar: http://www.senedd.cynulliad.cymru/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=8010